Amdanom Ni
Mae Coleg Trefeca yn hyrwyddo lles ysbrydol aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Christnogolion o enwadau a thraddodiadau eraill drwy gyfrwng gweddi, myfyrdod, addysg a thrafodaeth. Ceisiwn ddarparu cyfleoedd i bawb sy'n treulio amser yn y llecyn hardd a hanesyddol hwn i brofi adnewyddiad ysbrydol drwy adlewyrchiad, gweddi ac addoliad a thrwy gynorthwyo unigolion a grwpiau wrth iddynt ddyfnhau eu ffydd a'u haddysg grefyddol mewn awyrgylch ddiogel, iachus a gofalgar.
Rydym hefyd yn ganolfan lle y gall Cristnogoion o wahanol draddodiadau ddod ynghyd a rhannu eu profiadau a'u credoau er mwyn hwyluso dealltwriaeth rhyng-enwadol a rhyng-ffydd.
Mae'n cyfleusterau yn cynnwys:
- Llety i 37 mewn ystafelloedd â pharau o welyau
- Cyfleusterau gwneud te a choffi
- Bwyd cartref da
- Prif lolfa, ystafell gynadledda gyda chyfleusterau gemau, lolfa groesawu a nifer o fannau lle y gall grwpiau bach gyfarfod
- Capel Bach ar gyfer addoli a gweddïo tawel
- Llyfrgell fechan o lyfrau, pamffledi a chyfnodolion crefyddol, DVDs, fideos ac offer clyweled
- Offer cyfieithu, gliniadur a thaflunydd digidol ar gyfer cyflwyniadau PowerPoint, uwchdaflunydd a Wi-Fi
- Amgueddfa fechan yn cynnwys dodrefn, llyfrau ac phrintiau o gyfnod Howell Harris
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl:
- Un lloft (en-suite) wedi ei haddasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
- Rhai addasiadau yn y prif adeilad, yn cynnwys lifft cadair olwyn i'r brif lolfa
- System ddolen glyw (trwy drefniant)
Rhaglen:
Rydym yn cynnig rhaglen o enciliau, cyrsiau a dyddiau o hyfforddiant. Mae manylion pellach yn ein rhaglen.
Ar adegau eraill, mae'r Ganolfan ar gael i grwpiau dydd neu breswyl i gynnal eu digwyddiadau eu hunain. Cysylltwch â ni i gael manylion prisiau ac argaeledd.
Mae Coleg Trefeca yn elusen gofrestredig, rhif 258456.